Lleoliad:
O bell drwy Microsoft Teams
Dyddiad: Dydd Iau, 30 Medi 2021
Amser: 09:15 – 15:00
Categori |
Enwau |
Aelodau'r Bwrdd: |
Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd); David Hanson; Michael Redhouse; Jane Roberts; Hugh Widdis; |
Ysgrifenyddiaeth: |
Llinos Madeley, Clerc; Ruth Hatton, Dirprwy Glerc; Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i’r Bwrdd; Craig Griffiths, Cynghorydd Cyfreithiol i’r Bwrdd; Joanna Adams, Cymorth Busnes i’r Aelodau; Bethan Davies, Pennaeth Cefnogaeth ac Ymgysylltu â’r Aelodau; David Lakin, Swyddog Cymorth Pwyllgor; Donna Davies, Pennaeth Pensiynau |
Eraill a oedd yn bresennol |
Sandra Bell, Adran Actiwari Llywodraeth y DU |
1 Cyflwyniad y Cadeirydd (9.15 - 9.20)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd David Hanson i'w gyfarfod cyntaf fel aelod o'r Bwrdd.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Llinos Madeley i'r cyfarfod fel Clerc newydd y Bwrdd a chofnodi diolch y Bwrdd i Lleu Williams, y Clerc blaenorol, am ei gyfraniad i waith y Bwrdd.
2 Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch:Cynllun Pensiwn yr Aelodau (9.20 - 10.30)
1.4 Papur 2 - Unioni McCloud a Sargeant: Ymatebion i’r ymgynghoriad
1.5 2.1 Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'w ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i Gynllun Pensiwn Aelodau o'r Senedd (“y Cynllun”). Roedd y cynigion hyn yn ceisio mynd i’r afael â dyfarniad McCloud a Sargeant y Goruchaf Lys, a ddyfarnodd fod rhai o ddarpariaethau cynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus a oedd yn trin aelodau iau yn llai ffafriol ar sail oedran yn wahaniaethol.
1.6 2.2 Nododd y Bwrdd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynigion a nodwyd yn yr ymgynghoriad.
1.7 2.3 Yn unol â’r cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad, cytunodd y Bwrdd i roi dewis ar unwaith i'r Aelodau yr effeithir arnynt o ran a ydynt am ddychwelyd i'r adran Cyflog Terfynol neu aros yn yr adran Enillion Gyrfa Cyfartalog wedi’u Hailbrisio ar gyfer cyfnod yr anghydraddoldeb.
1.8 2.4 Cytunodd y Bwrdd y dylid cyfarwyddo Eversheds Sutherland i ddrafftio newidiadau i'r Cynllun i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd.
1.9 2.5.5 Cytunodd y Bwrdd i ddarparu hyd at £150 fesul Aelod tuag at gost cyngor ariannol annibynnol ar y mater hwn.
1.10 2.6 Nododd y Bwrdd fod yn rhaid anfon y newidiadau i Reolau'r Cynllun at Drysorlys EM i'w cymeradwyo.
2.7 Trafododd y Bwrdd argymhelliad gan y Bwrdd Pensiynau i newid y diffiniad o “partner” yn y Cynllun. Cynigiwyd y newid hwn gan fod Rheolau'r Cynllun cyfredol yn cynnwys geiriad y mae'r Goruchaf Lys yn ei ddyfarnu i fod yn wahaniaethol i gyplau dibriod sy'n cyd-fyw.
2.8 Cytunodd y Bwrdd y dylid newid y diffiniad i ddileu'r gofyniad o ran ffurflen enwebu sydd wedi'i gynnwys yn y diffiniad o “partner”. Cytunodd y Bwrdd hefyd na fyddai'n briodol ymgynghori ar y newid hwn.
1.12 2.9 Cytunodd y Bwrdd y dylid cyfarwyddo Eversheds Sutherland i ddrafftio newidiadau i'r Cynllun i adlewyrchu penderfyniad y Bwrdd.
Papur 4 - Cymeradwyaeth Trysorlys EM o dan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013
2.10 Trafododd y Bwrdd ei ymateb i fwriad Llywodraeth y DU i ddiwygio Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol i fynd i’r afael â’r gofyniad i Weinidogion Trysorlys EM gymeradwyo unrhyw newidiadau a wneir gan y Bwrdd i gynllun pensiwn yr Aelodau.
Papur 5 - Cylch Gorchwyl y Bwrdd Pensiynau
2.11 Nododd y Bwrdd fwriad y Bwrdd Pensiynau i addasu ei Gylch Gorchwyl i egluro’r broses ar gyfer cael enwebiadau ar gyfer Ymddiriedolwyr a Enwebwyd gan Aelodau. Nododd y Bwrdd mai diben y newid hwn oedd adlewyrchu'r arfer presennol a sicrhau cydymffurfiad parhaus â'r gofynion llywodraethu cyfredol.
Papur 6 - Prisiad y terfyn uchaf
ar gostau
Atodiad A: Prisiad y terfyn uchaf ar gostau ar 1 Ebrill 2020:
Cyngor ar ragdybiaethau demograffig: Adran Actiwari’r
Llywodraeth
2.12 Croesawodd y Bwrdd Sandra Bell o Adran Actiwari Llywodraeth y DU, a oedd ar gael i ateb unrhyw gwestiwn yn ymwneud â'r cyngor ar ragdybiaethau demograffig ar gyfer prisiad y terfyn uchaf ar gostau a ddarperir gan Adran Actiwari Llywodraeth y DU.
2.13 2. Bu'r Bwrdd yn trafod ac yn cytuno ar y rhagdybiaethau demograffig a gynigiwyd gan yr Adran Actiwari ar gyfer prisiad y terfyn uchaf ar gostau. Cytunodd y Bwrdd hefyd na fyddai'n briodol ymgynghori ar y rhain.
2.14 Nododd y Bwrdd nad oedd Trysorlys EM wedi cyhoeddi ei gyfarwyddiadau ar gyfer prisiad y terfyn uchaf ar gostau ar gyfer 2020 eto ond nad ydynt yn debygol o effeithio ar y rhagdybiaethau demograffig. Nododd y Bwrdd ymhellach yr ymgynghorid ag ef pe bai hynny'n newid.
Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud y canlynol:
· drafftio llythyr at y Bwrdd Pensiynau ynghylch penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar unioni McCloud a Sargeant, ac i gyfarwyddo Eversheds Sutherland i ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i Reolau’r Cynllun;
· drafftio llythyr at y Bwrdd Pensiynau i gadarnhau cytundeb y Bwrdd Taliadau Annibynnol i newid y diffiniad o “partner” yn y Cynllun, ac i gyfarwyddo Eversheds Sutherland i ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i Reolau’r Cynllun;
· drafftio llythyr at y Senedd ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol, a osodwyd yn y Senedd gan y Cwnsler Cyffredinol ym mis Awst 2021.
· drafftio llythyr at y Bwrdd Pensiynau i gadarnhau bod y Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi nodi'r newid i'w Gylch Gorchwyl.
· drafftio llythyr at Adran Actiwari'r Llywodraeth i gadarnhau y cytunir â’r rhagdybiaethau demograffig a wnaed yn ei chyngor.
3 Eitem i'w thrafod:Strategaeth y bwrdd ar gyfer 2021-26 (10:45 - 12:15)
3.1 Trafododd y Bwrdd y strategaeth ddrafft a chytunwyd i ystyried fersiwn derfynol ddiwygiedig yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd.
Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i ddarparu strategaeth ddiwygiedig, derfynol ar gyfer cytuno yn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd ac i wneud trefniadau ar gyfer ei chyhoeddi wedi hynny.
4 Eitem i'w thrafod:Adolygiad o gefnogaeth COVID-19 (13:15 - 14:30)
Papur 8 – Papur eglurhaol
4.1 Adolygodd y Bwrdd y darpariaethau y mae wedi'u rhoi ar waith i gefnogi Aelodau a'u staff yn ystod y pandemig COVID-19. Yn benodol, bu'r Bwrdd yn trafod diweddariadau ar y nifer sy'n manteisio ar y Lwfans Gweithio Gartref, yr asesiadau Offer Sgrin Arddangos, a'r Gronfa Dychwelyd i Swyddfeydd yn dilyn COVID-19.
4.2 Trafododd y Bwrdd adborth gan Aelodau a staff ar y gefnogaeth sydd ar gael, a nododd fod llawer yn dal i ystyried sut mae COVID-19 yn effeithio ar eu ffyrdd o weithio.
4.3 Yn sgil ansicrwydd parhaus ynghylch effaith y pandemig, ac oherwydd yr adborth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad, cytunodd y Bwrdd i barhau â'r darpariaethau presennol ar gyfer y Lwfans Gweithio Gartref; Cronfa Dychwelyd i Swyddfeydd yn dilyn COVID-19, ac asesiadau Offer Sgrin Arddangos.
4.4 Cytunodd y Bwrdd y bydd y darpariaethau hyn yn parhau ar waith wrth iddo gynnal adolygiadau o’r cymorth ar gyfer gweithio hyblyg/gartref, ac ar gyfer gofynion iechyd a diogelwch cysylltiedig. Cytunodd y Bwrdd ymhellach mai nod cyffredinol yr adolygiad hwn fyddai gweithio tuag at drefniadau symlach ar gyfer cefnogi Aelodau yn y meysydd hyn, gan sicrhau ar yr un pryd bod egwyddorion pwysig gwerth am arian a rhesymoldeb yn cael eu cynnal.
5 Eitem i'w thrafod a gwneud penderfyniad yn ei chylch: Diweddariadau a dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol (14:30 - 15:00)
Papur 9 - Papur diweddariad
5.1 Nododd y Bwrdd ddiweddariadau ar y canlynol, gan gytuno i ddychwelyd i agweddau perthnasol fel rhan o'i raglen waith barhaus i adolygu'r Penderfyniad:
· eitemau a ganiateir o dan Bennod 6 o'r Penderfyniad lle mae rhwymedigaeth o ran treth
· adneuon ar gyfer prydlesi swyddfa;
· polisïau staff cymorth.
5.2 Nododd y Bwrdd hefyd ddiweddariadau ar:
· ymgynghoriad Comisiwn Ffiniau Cymru ar gynigion cychwynnol i newid etholaethau San Steffan yng Nghymru;
· y datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru ar gydweithio ar 14 Medi 2021;
· trefniadau ar gyfer hawlio ffioedd y Bwrdd;
· ei raglen ar gyfer ymgysylltu ag Aelodau;
· ei wefan;
· Fforwm y Rheoleiddwyr Seneddol Annibynnol.
5.3 Trafododd y Pwyllgor ddyddiadau’r cyfarfodydd yn y dyfodol a chytunodd i ddychwelyd at y flaenraglen waith yn ei gyfarfod nesaf.
Camau i’w cymryd: Yr Ysgrifenyddiaeth i ddarparu rhestr ddiwygiedig o ddyddiadau cyfarfod i'w cytuno yn y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd.